Rhesymau dros wrthwynebu cynnwys Eithinog 1 (Friars) o fewn ffiniau datblygu.

(gweler map)

(1) Nodwyd glaswelltir heb ei wella

Mae'r cynefin sy’n bresennol yn y cae de orllewinol (Cae DO) o fewn Eithinog 1 yn gynefin dan fygythiad ac yn teilyngu gwarchodaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

(2) Gwrthwynebiadau’n seiliedig ar ddynodiad y cyfan o Eithinog 1 yn rhan o’r Gylchfa Tir Coediog (Cynllun Lleol Afon Menai).

* (A) ‘Yn gyffredinol bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn erbyn datblygu pellach... [yn peri] colli planhigion iach neu rwystro eu tyfiant’. (Polisi 6A).

** Byddai datblygu Cae DO yn disodli’n barhaol y cynefin naturiol presennol.

* (B) Rhoddir blaenoriaeth i gynnal ac atgyfnerthu ... cymeriad rhannau o’r Gylchfa ar y grib allweddol uwchlaw’r Fenai (3.01).

** Mae rhan uchaf Cae DO yn ffurfio rhan o’r grib allweddol hon, ac i’w gweld ar y gorwel o Borthaethwy. Byddai gogwydd y tir yn creu anhawsterau pe ceisid lliniaru effaith y datblygiad drwy dirlunio.

* (C) Gwrthwynebir datblygu o fewn y Gylchfa lle y byddai’n debygol o andwyo cymeriad neu ansawdd y tirlun (Polisi 6B).

** Mae’r tirlun yn Cae DO yn nodedig, crib â golygfeydd ar draws dyffryn y Fenai, ac allt serth â llystyfiant naturiol i lawr i Goed Gorffwysfa o fewn yr Ardal Gadwraeth Tirlun (AGT). Byddai difrod i gymeriad ac ansawdd y tirlun yn anorfod pe datblygid tir mor serth ac unigryw.

(3) Gwrthwynebiadau’n seiliedig ar gynnwys y Drafft Ymgynghorol (C.D.U. 2002).

* (A) Effaith ar fwynderau gweledol a bio-amrywiaeth yn ardal y Fenai (1.2.18).

** Mae rhan uchaf Cae DO yn amlwg ar y gorwel o Borthaethwy. Yn ogystal, y mae golygfa dda oddi ar y grib yng Nghae DO i lawr dros Goed Gorffwysfa ac ar draws dyffryn y Fenai.

Byddai bio-amrywiaeth cyfoethog y glaswelltir heb ei wella, sydd yn cynnwys amrywiaeth eang o bryfetach, heidiau o bincod yn bwydo yn ystod y gaeaf, mamoliaid a warchodir yn statudol, a bywyd gwyllt yn bresennol yn y gwrychoedd a’r coed cyffin, yn cael eu heffeithio pe datblygid Cae DO.

* (B) Difrod i dir o werth tirlun a bio-amrywiaeth uchel, a gwerth cyffelyb o ran tir agored cymunedol (2.B.1.23).

** Eithinog 1 yw un o’r ardaloedd â’r mwyaf o ddefnydd arno o’r holl dir agored gerllaw oherwydd agosrwydd ystad Eithinog. Gweler uchod ac isod hefyd parthed tirlun a bio-amrywiaeth.

* (C) Effaith annerbyniol ar Ardal Gadwraeth Tirlun (AGT), cymeriad ac ansawdd y tirlun, ei golwg neu ei gosodiad; golygfeydd ar ei thraws, i mewn iddi ac allan ohoni; gan gynnwys y tu allan i’w therfynau (Polisi B4; 2.B.2.9; 2.B.2.11; Polisi B10).

** Byddai’r datblygiad yn dringo i fyny llethr serth uwchlaw Coed Gorffwysfa, ac o fewn tua 10 metr yn unig iddo. Byddai datblygu Cae DO fel yr argymhellir yn dominyddu’r rhan hon o’r AGT. Yn ogystal, collid golygfan dda dros yr AGT tua Phorthaethwy. Dichon y byddai difrod eilaidd megis gorddefnydd a sbwriel yn digwydd i’r coed hynafol o fewn yr AGT, ond ar fin y datblygiad.

* (CH) Effaith annerbyniol ar dir agored o fewn tref sydd yn bwysig i gymeriad gwledig yr ardal (Polisi B11); ac yn enwedig cymeriad hynod y tir, mwynderau gweledol, effaith ar y tirlun lleol, yr angen i leoli’r datblygiad ar y tir [penodol], effaith ar werth ecolegol, ac ar fwynderau’r trigolion lleol (2.B.3.10).

** Byddai datblygu’n effeithio’n fawr ar werth ecolegol y tir. Disodlid rhywogaethau amrywiol glaswelltir heb ei wella yng Nghae DO, a byddai adar megis y cudyll a’r dylluan frech yn colli tir hela; gweler hefyd uchod ac isod.

Effeithid hefyd ar fwynderau’r trigolion lleol, gan y byddai’n rhaid cerdded gryn dipyn ymhellach i gyrraedd tir agored. Dim ond 400 metr yw dalgylch tir agored cyhoeddus yn ôl Arweiniad Polisi gan y Llywodraeth.

Mae tir agored llai gwerthfawr ar sawl cyfrif yng nghymuned Bangor y gellid ei ddatblygu.

Y gweddill o’r pwyntiau uchod yn y Polisi a’r paragraff rhagddywededig, gweler uchod ac isod.

* (D) Amharu a niweidio rhywogaethau a ddiogelir ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd, neu eu cynefin (Polisi B19; 2.B.4.17; 2.B.4.18).

** Defnyddir y tir agored yn Eithinog 1 gan ystlumod noctule ac ystlumod lleiaf (pipistrelle) – a ddiogelir yn statudol – i hela.

* (DD) Amharu a niweidio rhywogaethau sy’n bwysig yn lleol, neu achosi difrod, darniad neu ddifetha eu cynefinoedd, oni bai fod yr angen am y cynigion yn bwysicach na’r angen am warchodaeth. Ni ddylid caniatáu datblygu oni bai fod buddiannau’r datblygiad i’r gymuned leol yn bwysicach na’r angen am warchodaeth (Polisi B20; 2.B.4.21).

** Byddai nifer o rywogaethau sy’n bwysig yn lleol yn cael eu heffeithio gan ddatblygiad Eithinog 1, yn enwedig pe datblygid Cae DO, nid yn unig o fewn y cae ei hun, ond hefyd oherwydd effaith presenoldeb datblygiad mor agos i goed derw hynafol bio-amrywiol o fewn yr AGT.

Buaswn yn tybio’n bendant fod gwerth tirlun, ecolegol a chymunedol yr ardal yn bwysicach na buddiannau’r datblygiad i’r gymuned leol, ac fel un a fu’n ceisio barn trigolion lleol ynglyn â datblygu’r caeau, credaf mai yr un yw’r farn gyffredinol yn lleol.

* (E) Colli tir agored o werth hamdden a mwynder, bio-amrywiaeth, ansawdd tirlun a mwynderau gweledol (Polisi CH37).

** Gweler uchod.

Mae’n nodedig y bu cynnydd yn arwynebedd Cae DO y bwriedir ei ddatblygu oddi ar 1998, gan fynd yn nes at ffin Coed Gorffwysfa.
Awgrymir y dylid ailedrych ar faint y datblygu a fwriedir ar gyfer Eithinog 1, a newid y ffiniau datblygu i leihau’r effeithiau andwyol, yn enwedig ar Gae DO a Choed Gorffwysfa, os nad eithrio’r ardal o’r map cynigion.