(1) Nodwyd glaswelltir heb ei wella – y cynefin sy’n bresennol yn y cae deheuol (Cae D) a’r cae gogleddol (Cae G) o fewn Eithinog 2 – yn gynefin dan fygythiad ac yn teilyngu gwarchodaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac felly hefyd coetir gwlyb, y ceir darn ohono o fewn yr ardal datblygu.
(2) Gwrthwynebiadau’n seiliedig ar gynnwys y Drafft Ymgynghorol (C.D.U. 2002).
* (A) Effaith ar fwynderau gweledol a bio-amrywiaeth yn ardal y Fenai, a diffyg cysondeb â’r pwyslais sylweddol a roddir ar ddiogelu mwynderau gweledol allan o, ac i mewn i, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Môn (1.2.18). Effaith andwyol ar olygfeydd i mewn i, neu allan o AoHNE Môn, a phwysigrwydd golygfeydd wrth edrych o ffyrdd... Amlygedd y datblygiad ar y gorwel o AoHNE Môn (2.B.3.4).
** Mae rhan uchaf Cae G o fewn terfynau Eithinog 2, ac ar orwel y tirlun enwog o’r gilfan barcio o fewn yr AoHNE rhwng Porthaethwy a Phont Britannia. Y mae’r olygfa oddi yno yng Nghae G i law’r tua’r Fenai a’r AoHNE ymysg y mwyaf nodedig ym Mangor.
* (B) Difrod i dir o werth tirlun a bio-amrywiaeth uchel, a gwerth cyffelyb o ran tir agored cymunedol (2.B.1.23).
** Cae G yw un o’r ardaloedd â’r mwyaf o ddefnydd arno o’r
holl dir agored gerllaw oherwydd agosrwydd Ffordd Penrhos. Gweler uchod ac isod
hefyd parthed tirlun a bio-amrywiaeth.
* (C) Effaith annerbyniol ar Ardal Gadwraeth Tirlun (AGT), cymeriad ac ansawdd
y tirlun, ei golwg neu ei gosodiad; golygfeydd ar ei thraws, i mewn iddi ac
allan ohoni; gan gynnwys y tu allan i’w therfynau (Polisi B4; 2.B.2.9;
2.B.2.11; Polisi B10).
** Dynodir tua acer o’r AGT o fewn Cae G i’w ddatblygu, gan gynnwys
y grib allweddol, yn ogystal â gweddill rhan uchaf ddwyreiniol y cae.
Byddai’r datblygiad yma’n dominyddu’r AGT islaw yn llwyr.
Yn ogystal, collid golygfan orau’r caeau, gyda phanorama eang dros dirwedd
coediog ac agored, ac ar draws Afon Menai tua Phont Britannia ac AoHNE Môn.
Dichon y byddai difrod eilaidd megis gorddefnydd yn digwydd, e.e. i’r
creigiau diddorol o fewn yr AGT, ond ar fin y datblygiad.
* (CH) Effaith annerbyniol ar dir agored o fewn tref sydd yn bwysig i gymeriad
gwledig yr ardal (Polisi B11); ac yn enwedig cymeriad hynod y tir, mwynderau
gweledol, effaith ar y tirlun lleol, yr angen i leoli’r datblygiad ar
y tir [penodol], effaith ar werth ecolegol, ac ar fwynderau’r trigolion
lleol (2.B.3.10).
** Byddai datblygu’n effeithio’n fawr ar werth ecolegol y tir. Disodlid
rhywogaethau glaswelltir heb ei wella, effeithid ar rywogaethau tir gwlyb drwy
dorri ar draws dalgylch dwr y gors bwysig ger Ysgol y Garnedd. Difrodid rhan
o’r coetir, a’r coetir gwlyb, yn uniongyrchol, a fwy na thebyg andwyid
y ddôl degeirianau wleb unigryw am y ffin â’r ardal datblygu
yma.
Effeithid hefyd ar Cae D sydd yn achlysurol yn doreithiog gan degeirianau a ffwng.
Byddai datblygu Cae G yn fwyaf arbennig yn gwahanu’r gors ger Ysgol y Garnedd oddi wrth weddill y tir agored, gan effeithio ar rywogaethau megis gïach. A byddai presenoldeb datblygiad yn Cae G, yn ymwthio i ganol y bloc tir agored, yn cael effaith anghymesur ar holl fio-amrywiaeth y caeau a’r warchodfa gymunedol arfaethedig.
Effeithid hefyd ar fwynderau’r trigolion lleol, gan y byddai’n rhaid i rai gerdded ymhellach i gyrraedd tir agored, ac mai dim ond 400 metr yw dalgylch tir agored cyhoeddus yn ôl Arweiniad Polisi gan y Llywodraeth.
Mae tir agored llai gwerthfawr ar sawl cyfrif yng nghymuned Bangor y gellid
ei ddatblygu.
Y gweddill o’r pwyntiau uchod yn y Polisi a’r paragraff, gweler
uchod ac isod.
* (D) Amharu a niweidio rhywogaethau a ddiogelir ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd,
neu eu cynefin (Polisi B19; 2.B.4.17; 2.B.4.18).
** Defnyddir y tir agored yn Eithinog 2 gan ystlumod lleiaf (pipistrelle) –
a ddiogelir yn statudol – i hela.
* (DD) Amharu a niweidio rhywogaethau sy’n bwysig yn lleol, neu achosi
difrod, darniad neu ddifetha eu cynefinoedd, oni bai fod yr angen am y cynigion
yn bwysicach na’r angen am warchodaeth. Ni ddylid caniatáu datblygu
oni bai fod buddiannau’r datblygiad i’r gymuned leol yn bwysicach
na’r angen am warchodaeth (Polisi B20; 2.B.4.21).
** Byddai llawer o rywogaethau sy’n bwysig yn lleol yn cael eu heffeithio
gan ddatblygiad Eithinog 2, yn enwedig pe datblygid Cae G, y gwrych ar hyd ei
ffin ddeheuol, y coed a’r coed gwlyb, a darn o ddalgylch dwr y tir gwlyb
ger Ysgol y Garnedd – e.e. gïach, amffibiaid yn magu wrth i lefelau
dwr daear syrthio ymhellach a choridorau natur tua’r gogledd gael eu cau,
tegeirianau brych, llafnlys mawr, blodau a ffwng tir gwlyb unigryw o fewn cwmpas
y warchodfa arfaethedig.Byddai presenoldeb datblygiad yn cae G yng nghanol y
caeau nid yn unig yn cael effaith gyffredinol ar fio-amrywiaeth, ond hefyd ar
ymarferoldeb y warchodfa honno.
Buaswn yn tybio’n bendant fod gwerth tirlun, ecolegol a chymunedol yr
ardal yn bwysicach na buddiannau’r datblygiad i’r gymuned leol,
ac fel un a fu’n ceisio barn trigolion lleol ynglyn â datblygu’r
caeau, ac a fu bron â fy ethol i’r cyngor ar gefn y mater yma’n
unig, credaf mai yr un yw’r farn gyffredinol yn lleol.
* (E) Colli tir agored o werth hamdden a mwynder, bio-amrywiaeth, ansawdd tirlun
a mwynderau gweledol (Polisi CH37).
** Gweler uchod.
(3) Byddai datblygu arwynebedd cymharol fychan o dir yn Eithinog 2 yn cael effaith anghymesur ar ymarferoldeb y warchodfa natur arfaethiedig ar y tir agored fydd weddill. Yn peri’r pryder mwyaf y mae:
(i) Datblygu’r grib allweddol yn Cae G o fewn yr AGT,
(ii) Datblygu coetir a choetir gwlyb hyd at ymyl y ddôl degeirianau wleb bwysig ar y tir gwlyb ger Ysgol y Garnedd, a nodwyd gan Gyngor Cefn Gwlad oherwydd ei harbenigrwydd,
(iii) Amharu ar ddalgylch dwr y tir gwlyb ger Ysgol y Garnedd, sydd eisoes wedi’i effeithio gan ddatblygiadau blaenorol,
(iv) Torri ar draws coridorau natur drwy Cae G rhwng y tir gwlyb ger Ysgol y Garnedd a thiroedd gwlyb ac agored ymhellach i’r gogledd,
(v) Colli’r rhan fwyaf o’r gwrych llawndwf ar hyd ffin ddeheuol Cae G, fyddai ar osgo i’r datblygiad, ac yn anodd i’w gadw o’r herwydd,
(vi) Ymwthiad datblygiad i ganol Caeau Briwas/Eithinog.
Awgrymir ailedrych ar Eithinog 2 gyda’r pwyntiau hyn mewn golwg, a newid
y ffiniau datblygu i leihau’r effeithiau andwyol, os nad eithrio’r
ardal o’r map cynigion.