YMGYRCH EITHINOG A CHAEAU BRIWAS, BANGOR, GWYNEDD

Eithinog a Chaeau Briwas:

50 erw o dir agored ym Mangor, Gwynedd, nepell o Bont y Borth a'r Fenai. Oherwydd gadael y caeau'n segur ers degawdau, ceir yma glytwaith o gynefinoedd cyfoethog eu byd natur, dolydd blodeuog, coetir, coedydd gwlyb a chorsydd, lle y nodwyd rhagor na 800 o rywogaethau, rhai megis y llafnlys mawr, gorfanc mwyaf, ystlum noctule, ffwlbart, brithribyn borffor, troellwr bach a'r gïach yn brin, yn enwedig ar fin ardal drefol.

Mae'r dolydd yn unig fan hamddena llawer o bobl gorllewin Bangor ers 60 mlynedd a mwy. Ond mae Cyngor Gwynedd, yr awdurdod lleol sydd biau Eithinog a Chaeau Briwas, yn benderfynol o'u gwerthu i ddatblygwyr.

Yr ymgyrch i'w diogelu:

Fis Awst 1994, yn sgîl cyhoeddi cynlluniau i adeiladu 280 o dai yn y caeau, y mwyafrif yn dai drud, sefydlwyd mudiad gwarchod gan y Ddaear yn Gyntaf! Gwynedd ac ardalwyr. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, protestiadau, arddangosfeydd, drama, gorymdeithiau, yn ogystal â gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn yr awdurdod drwy feddiannu tô'r Adran Dai, a tharfu ar gyfarfodydd cynllunio. Casglwyd 3000 o lofnodion i ddeiseb yn erbyn datblygu a gyflwynwyd i'r cyngor, a dangosodd arolwg barn bod 99.2% o bobl leol yn gwrthwynebu.

Cynghorwyr llywaeth:

Yn ôl y disgwyl, profodd swyddogion a chynghorwyr bod buddiannau datblygwyr yn bwysicach iddynt na dim. Rhwystrodd y gwaharddiad ar lobïo bobl leol rhag rhoi eu barn yn uniongyrchol i gynghorwyr, anwybyddwyd eu llythyrau, a dylanwadodd swyddogion ar gynghorwyr i gymeradwyo'r cynlluniau. Rhoddwyd caniatâd amlinellol ar y cyfan o'r caeau, er bod 65% o'r ardal yn enghreifftiau o gynefinoedd prin y dylid eu gwarchod yn ôl Cyngor Cefn Gwlad Cymru, a 30% yn dir na ddylid ei ddatblygu yn ôl y cynllun strwythur.

Cyfundrefn unochrog:

Yr hyn a brofodd yn fwyaf eglur gymaint o ffars ydi'r sianelau swyddogol o wrthwynebu datblygu oedd hanes cais y Mudiad Gwarchod i ddynodi'r caeau'n Lastir Trefol, ymgais munud olaf i rwystro'r datblygwyr, gyda hanner cant o ardalwyr yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus. Methodd y cais oherwydd dadansoddiad geiriad y ddeddf, sydd yn ei gwneud yn gwbl amhosib i ddiffinio cymuned benodol sydd yn mynychu'r tir agored perthnasol o fewn ardal drefol - malu cachu cyfreithiol sydd wedi rhwystro dwsinau o gymunedau ledled Cymru a Lloegr rhag diogelu'u tir agored traddodiadol.

Moch yn y winllan:

Cyrhaeddodd R.L.Davies, contractwyr Cymdeithas Tai Gogledd Cymru (corff tai sydd â hanes o ddatblygu tir gwyrdd, ac o drin eu tenantiaid yn warthus), un bore ym mis Mawrth 1998. Erbyn y pnawn, yr oedd pump wedi'u harestio, dau am roi pridd yn lle chwech y gweithwyr a neidio ar darw dur, a thri yn anghyfreithlon wedi'u llusgo gan "Hard Squad" Heddlu Gogledd Cymru o babell a osodwyd o flaen tarw dur. Brawychwyd henoed oedd yn gwylio. Bu gwir anhrefn wrth i ymgyrchwyr chwarae mig efo'r heddlu a'r contractwyr, yn gymysg ag ardalwyr cefnogol, a'r cyfryngau. Ond erbyn diwedd y pnawn, yr oedd gwersyll wedi'i sefydlu, a'r heddlu wedi cilio (am y tro!) Yn ystod y tair wythnos nesaf, cafwyd cefnogaeth ardderchog gan bobl leol, a thyfodd y gwersyll, wrth i'r datblygwyr a'r heddlu baratoi i feddiannu'r safle, na ellid ond ei amddiffyn â chloeon garddwrn.

Dulliau poenydio Heddlu Gogledd Cymru:

Daeth yr meddianiad ddiwedd y mis, pan ruthrodd 60 o heddlu a beiliaid ar y safle, ond difethwyd y bwriad i gyrraedd yn ddirybudd pan ganodd seiren un o'r faniau heddlu. Erbyn hynny, yr oedd 8 o ymgyrchwyr wedi ymgloi, un arall mewn rhwyd uwchlaw, a thystion cyfreithiol ac ardalwyr yn bresennol. Ond yn fuan, cliriwyd pob tyst o'r safle, ac yr oedd yn amlwg nad meddianiad cyffredin oedd hwn i fod.

Yn eu tro, amgylchynwyd y protestwyr gan ddwsinau o swyddogion â'u coesau ynghyd, i guddio'r hyn oedd yn digwydd. Ymosododd aelodau'r heddlu ag awch ar rannau penodedig o gyrff y protestwyr, a defnyddio gefynnau undarn i droi a gwasgu eu garddyrnau rhydd i greu poen erchyll, dan gyfarwyddyd arweinydd yr "Hard Squad", yr arch-sadist a chwalwr-rêf, yr (Uwch bellach) Arolygydd Schwarz. Defnyddiwyd tarw dur i foddi'r sgrechiadau o boen. Er y tactegau ffiaidd, a allasai olygu iawndal o £50,000 neu fwy gan Heddlu Gogledd Cymru, cymerwyd mwy na dwy awr i boenydio'r wyth protestiwr o'u cloeon. Gorymdeithiodd bobl leol i swyddfeydd y datblygwr mewn protest.

Ail wersyll:

O fewn dyddiau, yr oedd ail wersyll wedi'i sefydlu. Y tro yma gellid adeiladu tai pen coed mewn gwrychoedd i amddiffyn llwybr ffordd arfaethedig drwy'r caeau. Yr oedd nifer o uchafbwyntiau i'r meddiant 3 mis: parti calan Mai enfawr, gydag ymweliad gan yr Arolygydd Schwarz a'i lengfilwyr - yn biwis na chafodd wahoddiad, mae'n rhaid; cyfarfod cyhoeddus a fynychwyd gan gannoedd o ardalwyr, gyda Daniel Zapata yn westai - ymgyrchwr amgylcheddol a hawliau brodorion Gogledd America. Gan ofni mwy byth o gyhoeddusrwydd negyddol, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd gynnig i sefydlu ymddiriedolaeth gymunedol i reoli 38% o'r caeau fel "gwarchodfa natur". Mewn gwirionedd, 8% yn llai fyddai'n cael ei ddatblygu, a'r safleoedd natur gorau, a 3000 o goed, yn parhau i'w dinistrio.

Moch yn hedfan (neu'n dringo coed, beth bynnag):

Pan ddigwyddodd yr adfeddianiad ddiwedd mis Gorffennaf 1998, ymddangosodd "Hard Squad" yr heddlu eto, torri garddwrn un person, tyrchu un arall allan o dwnel (heb ei atgyfnerthu) efo tarw dur, llif drydan, gordd a rhaw, a dringo i'r coed - yn groes i ganllawiau'r heddlu - gan chwifio cyllyll o gwmpas a thorri rhaffau'n gwbl ddi-hid o ddiogelwch. Parhaodd y gwarchae am 24 awr, er anwybyddu rheolau diogelwch, ac er nad oedd y coed yn fwy na 30 troedfedd o uchder. Arestiwyd 19, ond costiodd y cyfan £50,000-£100,000 i Gyngor Gwynedd, yn ogystal â gwneud eu henw'n faw oherwydd eu cyplysu â delweddau o eco-fandaliaeth (heb sôn am orfod prynu dillad newydd, di-baent i Schwarz a'i giwed).

Y presennol:

Adeiladwyd 12 tŷ arall yn 2001, ond nid yn ddi-broblem. Mae 80 i 90 yn yr arfaeth ar gyfer y chwe mlynedd nesaf. Rydym yn pwyso rŵan am eithrio mwy o dir, ac yn eu hatgoffa ein bod "yma o hyd". Mae'r ffaith ein bod eisoes wedi gorfodi addawiad o warchodfa 19 erw, yn ogystal ag 16 erw arall o dir y cyngor gerllaw, yn brawf mai drwy sefyll yn gadarn y mae ennill consesiynau.

Y newyddion diweddaraf:

Dengys Drafft y Cynllun Datblygu newydd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2002 y bu gostyngiad pellach o 7 erw yn y tir y bwriedir ei ddatblygu. Bydd y rhan fwyaf o’r tiroedd gwlyb ac Ardal Gadwraeth Tirlun yn cael eu rhoi y tu hwnt i’r terfyn datblygu, o ganlyniad i gynigion ymgyrchwyr fe ymddengys. Ond mae agosrwydd datblygiad, colli dalgylch dŵr, a rhannu, yn dal i fygwth dyfodol a gwerth llawer o’r cynefinoedd mwyaf arbennig.

Cysylltwch â: Ymgyrch Gwarchod Eithinog a Chaeau Briwas d/o Tŷ Gwydr, Stryd Fawr, Bangor; (01248) 355821.